Bar Tynnu (Drawbar)

Rydym yn cyflenwi bariau tynnu gan restr eang o gynhyrchwyr blaenllaw sydd wedi'u lleoli yn y DU a chyfandir Ewrop. Rydym yn cyflenwi bariau tynnu Towsure Witter, Bosal, Brinck ac eraill.

Mae gennym filoedd o fariau tynnu sydd ar gael i ni yn uniongyrchol o'r cynhyrchwyr, gan amlaf os yw'n cael ei archebu cyn 2pm dylai gyrraedd y diwrnod gwaith canlynol.

Rydym bellach yn cadw stoc o amrywiaeth eang o offer trydanol penodol i gerbydau (llawer ohonyn nhw‘n "becynnau plygio i mewn") ynghyd â'r pecynnau trydanol cyffredin.

Ynghyd â bariau tynnu rydym hefyd yn cyflenwi ac yn gosod amrywiaeth o raciau beics/raciau a bocsys to. Cysylltwch â ni i weld yr amrywiaeth sydd ar gael gennym.

O 1998 mae cyfreithiau'r Gymuned Ewropeaidd wedi gwella ansawdd bariau tynnu, ond maen nhw hefyd wedi gosod rhai cyfyngiadau ar yr hyn y gallwch ei osod.

Cymorth Teiars Ochr Ffordd 24/7

Mae Teiars Huw Lewis Tyres yn deall y gall sefyllfaoedd argyfyngus ac anfwriadol godi o bryd i'w gilydd. Mae ein gwasanaeth ymateb cyflym yn golygu y gallwch fod yn hyderus y bydd Teiars Huw Lewis yno i gael eich cerbyd masnachol yn ôl ar y ffordd.

Mae Teiars Huw Lewis yn unigryw yn y ffaith eu bod mewn sefyllfa i gynnig sicrwydd i gerbydau yn torri i lawr ar draws y wlad sy'n sicrhau bod eich cerbydau yn ôl ar y ffordd mor gyflym a diogel â phosibl ar draws y DU.

Mae timau ymroddgar yn canolbwyntio ar gerbydau yn torri i lawr ar gael 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos a 365 diwrnod y flwyddyn. Mae ein tîm ochr ffordd i gyd wedi'u hyfforddi gyda MICHELIN ac fe allan nhw ddatrys problemau torri i lawr wrth ochr ffordd yn effeithiol ac yn gyflym.

Mae rhestr brisiau clir a syml ar gael ar gyfer y gwasanaethau canlynol:

  • Ymateb Cyflym - ar gyfer cymorth torri i lawr wrth ochr y ffordd.
  • Cymorth Torri i Lawr - ar draws y DU, 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.
  • Gwaith Gwasanaeth wedi'i Drefnu - cerbydau yn ôl ar y ffordd cyn gynted â phosibl.
  • Gwasanaeth mewn Canolfannau - gwasanaeth technegol diogel a gonest.
  • Syml a Chlir – system brisio glir.

Os ydych chi'n torri i lawr a'i fod yn gysylltiedig â theiar, yna ffoniwch ein tîm profiadol ar 01970 611166

Gwasanaeth Teiars 24 awr yn:

  • Y Bermo
  • Dolgellau
  • Y Drenewydd
  • Machynlleth
  • Tywyn
  • Aberdyfi
  • Llanidloes
  • Rhaeadr Gwy
  • Aberystwyth
  • Borth
  • Aberaeron
  • Tregaron
  • Llanbedr Pont Steffan
  • Llandysul
  • Aberteifi
  • Castell Newydd Emlyn
  • Llanymddyfri
  • Llanfair-ym-Muallt
  • Parc Cenedlaethol Eryri
  • Cei Newydd
  • Aber-porth
  • Llandysul
  • yr A487
  • yr A44
  • yr A470
  • yr A489
  • yr A458